Anifeiliaid sâl neu sydd wedi’u hanafu
Os ydych chi’n dod o hyd i anifail sâl neu sydd wedi’i anafu, ffoniwch linell gymorth argyfwng yr RSPCA ar 0300 1234 999 (8am – 8pm).
O dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae’n gyfraith bellach fod gan berchnogion anifeiliaid anwes ddyletswydd gofal i’w hanifeiliaid anwes. Os yw’ch anifail anwes yn sâl neu wedi’i anafu rhaid i chi fynd ag ef at filfeddyg. Gall y PDSA helpu’r bobl hynny sy’n derbyn budd-dal tai.
Am gyngor pellach, cysylltwch â’ch milfeddyg.
Creulondeb
Os ydych chi’n amau bod anifail yn cael ei esgeuluso neu ei drin yn greulon, ffoniwch linell gymorth argyfwng yr RSPCA ar 0300 1234 999 (8am – 8pm)